Navigating Arthritis Volunteer

Time commitment: Flexible, each session lasts 1 – 2.5 hours plus time for training and reflective practice

Travel: A community-based venue

Are you looking for an opportunity to use your creativity, energy and excellent skills to really make an impact? Would you like to find a rewarding and fulfilling way for others to benefit from your knowledge and experience? 

We are currently recruiting Navigating Arthritis Volunteers in the location(s) listed below. We would love you to volunteer with us! 

About the role

Make support for arthritis easier to find. Make someone’s day. Make a real difference. 

Every day, people living with arthritis feel unsure where to turn. You can change that — in just a few hours a month. 

As a Navigating Arthritis Volunteer, you’ll help people in your community get the information and support they need, fast. No medical knowledge needed. Just your enthusiasm, kindness and local knowhow. 

Three ways to make an impact - Choose one. Mix a few. Flex it around your life. 

  • Chat & Share 
    Host info tables, refresh leaflets, and chat with people at community events.
  • Connect Locally 
    Connect with community organisations and share information about Arthritis UK in ways that feel relevant and useful to each setting 
  • Give Short Talks 
    Use our ready-made materials to deliver simple, confidence boosting talks 

Why you’ll love it

  • Flexible, low-pressure volunteering
  • Meet new people
  • Make life easier for those living with arthritis
  • Full training, resources and support
  • Expenses covered
  • A warm, welcoming team cheering you on
  • A mix of online and face to face 

Don’t worry if you

  • Don’t have qualifications or experience 
  • Aren’t an arthritis expert - we’ll give you the training 
  • Can’t do every activity - just pick what suits you 

What you won’t be expected to do 

  • Provide ongoing one-to-one support 
  • Give medical advice 
  • Recommend specific services 
  • Make home visits or be ‘on call’ 
  • Have all the answers 
  • Commit to fixed weekly times 
  • Negotiate or manage partnerships 
  • Make commitments on behalf of Arthritis UK 

Download the role profile for a Navigating Arthritis Volunteer.

If you have any questions about this role before applying, please contact volunteering@arthritis-uk.org.

How to apply

You must be based in the UK to apply for this opportunity.

Please complete and submit the online volunteering application form, please include the relevant code for the location of the role you are interested in: 

  • Navigating Arthritis Volunteer (197) - London (England).
  • Navigating Arthritis Volunteer (7) - South West Wales (Wales).
  • Navigating Arthritis Volunteer (211) - Cardiff, South East Wales (Wales).

When we have received your application, we will be in touch. 

Our safer recruitment process will include: 

  • An informal chat to discuss the role, get to know you and understand your motivations for volunteering 
  • Two references 
  • Photo identification.   

About us

We are committed to increasing the diversity of our charity and we welcome candidates from a wide variety of backgrounds and experiences.  We want our employees, volunteers, trustees and involved people to represent the broad diversity of the communities of which we are a part.    

Over 10 million adults, young people and children in the UK live with arthritis. That’s one in six of us living with the pain, fatigue, disability, mental and financial strain it can cause. Many more live with arthritis but remain undiagnosed, untreated and unsupported. 

We know the impact of arthritis can be huge, affecting the ability to work, care for family, move free from pain and live independently.  Yet for a condition affecting so many, it’s poorly understood and far too little is done.  That’s why we invest in life-changing research into better treatments, support people through the daily challenges of life with arthritis, and campaign on the issues that matter most to people living with it. 

At Arthritis UK, we won’t rest until everyone with arthritis has access to the treatments and support they need to live the life they choose, with real hope of a cure in the future. 

Arthritis UK is committed to keeping children, young people and vulnerable adults safe from harm. During the recruitment process we will undertake safer recruitment practices and relevant checks to ensure applicants are suitable to work with children, young people and vulnerable adults.  

Read more about volunteering for us.

Animal Research

We are committed to developing new treatments for arthritis. To achieve this, we fund a broad range of medical research, and this includes research which uses animals. For further information, please see Animal Research Policy.

Gwirfoddolwr Llywio Arthritis

Ymrwymiad amser – mae pob sesiwn yn para am 1 awr i 2.5 awr yn ogystal ag amser ar gyfer hyfforddiant ac ymarfer myfyriol

Teithio – i leoliad yn y gymuned

Ydych chi’n chwilio am gyfle i ddefnyddio eich creadigrwydd, eich egni a’ch sgiliau i gael effaith go iawn? Hoffech chi ddod o hyd i ffordd wobrwyol a boddhaol i bobl eraill gael budd o’ch gwybodaeth a’ch profiad?

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio Gwirfoddolwr Llywio Arthritis yn y lleoliad(au) canlynol. Byddem wrth ein boddau’n eich cael chi’n gwirfoddoli i ni!

Gwybodaeth am y rôl

Gwnewch gymorth ar gyfer arthritis yn haws dod o hyd iddo. Rhowch wên ar wyneb rhywun. Gwnewch wahaniaeth go iawn. 

Bob dydd, mae pobl sy’n byw gydag arthritis yn teimlo’n ansicr o ran ble i droi. 

Gallwch chi newid hynny – mewn ychydig o oriau y mis. 

Fel Gwirfoddolwr Llywio Arthritis, byddwch chi’n helpu pobl yn eich cymuned i gael yr wybodaeth a’r cymorth y mae ei angen arnynt, yn gyflym. Nid oes angen meddu ar wybodaeth feddygol. Bydd eich brwdfrydedd, eich caredigrwydd a’ch gwybodaeth leol yn ddigon. 

 

Tair ffordd o gael effaith – Dewiswch un. Cymysgwch rai. Gallwch eu ffurfio i gyd-fynd â’ch bywyd. 

  • Sgwrsio a Rhannu - Cynnal byrddau gwybodaeth, adnewyddu taflenni gwybodaeth a sgwrsio â phobl yn ystod digwyddiadau cymunedol. 
  • Cysylltu’n Lleol - Cysylltu â mudiadau cymunedol a rhannu gwybodaeth am Arthritis UK mewn ffyrdd sy’n teimlo’n berthnasol ac yn ddefnyddiol ym mhob lleoliad. 
  • Cynnal Sgyrsiau Byr - Defnyddio ein deunyddiau parod i gyflwyno sgyrsiau syml sy’n rhoi hwb i lefelau hyder. 

Pam y byddwch chi’n dwlu arno

  • Gwirfoddoli hyblyg, pwysedd isel 
  • Cwrdd â phobl newydd
  • Gwneud bywyd yn haws ar gyfer y rhai sy’n byw gydag arthritis 
  • Hyfforddiant llawn, adnoddau a chymorth 
  • Telir am gostau teithio
  • Tîm croesawgar yn eich cefnogi i lwyddo
  • Cymysgedd o ar-lein ac wyneb yn wyneb 

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n

  • Meddu ar gymwysterau na phrofiad
  • Arbenigwr ym maes arthritis - byddwn ni’n rhoi’r hyfforddiant i chi 
  • Gallu cyflawni pob gweithgaredd – dewiswch y rhai sy’n addas i chi 

Ni fydd disgwyl i chi 

  • Roi cymorth un i un parhaus 
  • Rhoi cyngor meddygol
  • Argymell gwasanaethau penodol 
  • Ymweld â chartrefi neu fod ‘ar alw’ 
  • Meddu ar yr atebion i gyd 
  • Ymrwymo i amseroedd wythnosol penodol 
  • Trafod neu reoli partneriaethau 
  • Gwneud ymrwymiadau ar ran Arthritis UK 

Lawrlwythwch broffil y rôl ar gyfer Gwirfoddolwr Llywio Arthritis.

 

Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y rôl hon cyn cyflwyno cais, e-bostiwch volunteering@arthritis-uk.org.

Sut i gyflwyno cais

Mae’n rhaid eich bod chi wedi’ch lleoli yn y DU i gyflwyno cais am y cyfle hwn.

I lenwi ac i gyflwyno’r Ffurflen Gais Gwirfoddoli ar-lein, dylech chi gynnwys y cod perthnasol ar gyfer lleoliad y rôl sydd o ddiddordeb i chi:

  • Gwirfoddolwr Llywio Arthritis – (7) De-orllewin Cymru
  • Gwirfoddolwr Llywio Arthritis – (211) Caerdydd 

Pan fyddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn cysylltu â chi.

Bydd ein proses recriwtio mwy diogel yn cynnwys:

Sgwrs anffurfiol i drafod y rôl, dod i’ch adnabod chi a deall eich cymhellion am wirfoddoli 

  • Dau eirda 
  • Prawf â llun   

Gwybodaeth amdanon ni

Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ein helusen ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiadau. Rydym yn dymuno i’n cyflogeion, ein gwirfoddolwyr, ein hymddiriedolwyr a phobl eraill sy’n rhan ohonom i gynrychioli amrywiaeth eang y cymunedau rydym yn rhan ohonynt.


Mae dros 10 miliwn o oedolion, pobl ifanc a phlant yn y DU yn byw gydag arthritis. Dyna un o bob chwech ohonom yn byw gyda’r poen, y blinder, yr anabledd, y straen meddyliol a’r straen ariannol y gall ei achosi. Mae llawer mwy yn byw gydag arthritis ond heb ddiagnosis, heb driniaeth a heb gefnogaeth.


Rydym yn gwybod y gall effaith arthritis fod yn enfawr, gan effeithio ar y gallu i weithio, i ofalu am eich teulu, i symud yn rhydd o boen ac i fyw yn annibynnol. Er hynny, am gyflwr sy’n effeithio ar gynifer o bobl, mae’r ddealltwriaeth amdano yn wael a llawer rhy ychydig yn cael ei wneud. Dyna pam ein bod ni’n buddsoddi mewn ymchwil i driniaethau gwell sy’n newid bywydau, yn cefnogi pobl trwy’r heriau dyddiol o fywyd gydag arthritis, ac yn ymgyrchu ar y materion sydd bwysicaf i bobl sy’n byw gydag ef.


Yn Arthritis UK, ni fyddwn yn gorffwys nes bod gan bawb sydd ag arthritis fynediad at y triniaethau a’r cymorth y mae ei angen arnynt i fyw’r bywyd y maent yn ei ddewis, gan feddu ar wir obaith o iachâd yn y dyfodol.


Mae Arthritis UK wedi ymrwymo i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed yn ddiogel rhag niwed. Yn ystod y broses recriwtio, byddwn yn ymgymryd ag ymarferion recriwtio mwy diogel a gwiriadau perthnasol i sicrhau fod ymgeiswyr yn addas i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed. 


Darllenwch fwy am wirfoddoli i ni.