Community Network Organiser
Time commitment: 6-8 hours per month
Travel: A community-based venue or online
Are you looking for an opportunity to use your creativity, energy and excellent skills to really make an impact? Would you like to find a rewarding and fulfilling way for others to benefit from your knowledge and experience?
We are currently recruiting Community Network Organisers in the location(s) listed below. We would love you to volunteer with us!
The Welsh language version of this advert is given further down on this page.
About the role
Across the UK, our community networks play a vital part in supporting people with arthritis, chronic pain and musculoskeletal (MSK) conditions. Our community networks are open to all and provide a sense of belonging, unity, and friendship and deliver services and support in their local community.
- Being the lead contact for information, resources and support
- Organising a programme of activities and use our online services database to register people and record participant attendance
- Managing the network budget, keeping track of spending and booking venues, refreshments, activities and speakers
- Promoting your network and the work of Arthritis UK to encourage a greater diversity of participants.
Download the role profile for a Community Network Organiser
If you have any questions about this role before applying, please contact volunteering@arthritis-uk.org
How to apply
Please complete and submit the Volunteering Application Form online, please include the relevant code for the location of the role you are interested in:
- Community Network Organiser – (136) Glasbury (Wales)
- Community Network Organiser – (137) Haverfordwest (Wales)
- Community Network Organiser – (138) Llandrindod Wells (Wales)
- Community Network Organiser – (128) Online Welsh Language (Wales) - to apply for this role you must be fluent in the Welsh Language)
- Community Network Organiser – (162) Redcar and Cleveland (England)
- Community Network Organiser – (168) Fleet Hampshire (England)
- Community Network Organiser – (124) Moray (Scotland)
- Community Network Organiser – (173) Derry, Londonderry (Northern Ireland)
When we have received your application we will be in touch, our safer recruitment process will include:
- An informal chat to discuss the role, get to know you and understand your motivations for volunteering
- Two references
- Photo identification.
About us
We are committed to increasing the diversity of our charity and we welcome candidates from a wide variety of backgrounds and experiences. We want our employees, volunteers, trustees and involved people to represent the broad diversity of the communities of which we are a part.
Over 10 million adults, young people and children in the UK live with arthritis. That’s one in six of us living with the pain, fatigue, disability, mental and financial strain it can cause. Many more live with arthritis but remain undiagnosed, untreated and unsupported.
We know the impact of arthritis can be huge, affecting the ability to work, care for family, move free from pain and live independently. Yet for a condition affecting so many, it’s poorly understood and far too little is done. That’s why we invest in life-changing research into better treatments, support people through the daily challenges of life with arthritis, and campaign on the issues that matter most to people living with it.
At Arthritis UK, we won’t rest until everyone with arthritis has access to the treatments and support they need to live the life they choose, with real hope of a cure in the future.
Arthritis UK is committed to keeping children, young people and vulnerable adults safe from harm. During the recruitment process we will undertake safer recruitment practices and relevant checks to ensure applicants are suitable to work with children, young people and vulnerable adults.
Read more about volunteering for us.
Trefnydd Rhwydwaith Cymunedol
Ymrwymiad Amser: 6 i 8 awr y mis
Teithio: Lleoliad yn y gymuned neu ar-lein
Ydych chi’n chwilio am gyfle i ddefnyddio eich creadigrwydd, eich egni a’ch sgiliau arddechog i gael effaith go iawn? Hoffech chi ddod o hyd i ffordd fuddiol a boddhaus y gall pobl eraill elwa o’ch gwybodaeth a’ch profiad?
Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio ar gyfer Gwirfoddolwyr Hyb Gwybodaeth yng Nghymru. Byddem wrth ein boddau yn eich cael chi’n gwirfoddoli gyda ni!
Gwybodaeth am y rôl
Ar draws y DU, mae ein rhwydweithiau cymunedol yn chwarae rhan hanfodol o ran cefnogi pobl ag arthritis, poen cronig a chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK). Mae ein rhwydweithiau cymunedol ar agor i bawb ac maent yn rhoi ymdeimlad o berthyn, undod a chyfeillgarwch ac maent yn cyflenwi gwasanaethau a chymorth yn eu cymuned leol.
- Bod y prif gyswllt ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chymorth
- Trefnu rhaglen o weithgareddau a defnyddio ein cronfa ddata gwasanaethau ar-lein i gofrestru pobl ac i gofnodi presenoldeb cyfranogwyr
- Rheoli cyllideb y rhwydwaith, cadw llygad ar wario ac archebu lleoliadau, lluniaeth, gweithgareddau a siaradwyr
- Hyrwyddo eich rhwydwaith a gwaith Arthritis UK i annog amrywiaeth fwy o gyfranogwyr.
Lawrlwythwch broffil y rôl ar gyfer Trefnydd Rhwydaith Cymunedol (PDF 139KB).
Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y rôl hon cyn cyflwyno cais, e-bostiwch volunteering@arthritis-uk.org.
Sut i gyflwyno cais
Llenwch a dychwelyd y Ffurflen Gais Gwirfoddoli ar-lein, gan gynnwys y cod perthnasol ar gyfer lleoliad y rôl sydd o ddiddordeb i chi:
- Trefnydd Rhwydwaith Cymunedol (136) - Y Clas-ar-Wy
- Trefnydd Rhwydwaith Cymunedol (137) - Hwlffordd
- Trefnydd Rhwydwaith Cymunedol (138) - Llandrindod
- Trefnydd Rhwydwaith Cymunedol (128) - Ar-lein Iaith Gymraeg (i wneud cais am y rôl hon, mae'n rhaid i chi fod yn rhugl yn yr Iaith Gymraeg)
Pan fyddwn ni wedi derbyn eich cais, byddwn ni’n cysylltu â chi a bydd ein proses recriwtio fwy diogel yn cynnwys:
- Sgwrs anffurfiol i drafod y rôl, dod i’ch adnabod chi a deall eich cymhelliant am wirfoddoli
- Dau eirda
- Ffotograff adnabod
Amdanom ni
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ein helusen ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiadau. Rydym am i'n gweithwyr, ein gwirfoddolwyr, ein hymddiriedolwyr ac unigolion sy'n cymryd rhan gynrychioli amrywiaeth eang y cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt.
Mae dros 10 miliwn o oedolion, pobl ifanc a phlant yn y DU yn byw gydag arthritis. Dyna un o bob chwech ohonom yn byw gyda'r poen, y blinder, yr anabledd, y straen meddyliol a’r straen ariannol y gall ei achosi. Mae llawer mwy yn byw gydag arthritis ond yn parhau i fod heb ddiagnosis, heb driniaeth a heb gefnogaeth.
Rydyn ni'n gwybod y gall effaith arthritis fod yn enfawr, gan effeithio ar y gallu i weithio, gofalu am deulu, symud heb boen a byw'n annibynnol. Ac eto i gyflwr sy'n effeithio ar gynifer, nid yw wedi'i ddeall yn dda ac mae cyn lleied yn cael ei wneud. Dyna pam ein bod ni'n buddsoddi mewn ymchwil sy'n newid bywydau i driniaethau gwell, yn cefnogi unigolion trwy heriau dyddiol bywyd gydag arthritis, ac yn ymgyrchu ar y materion sydd bwysicaf i unigolion sy'n byw gydag ef.
Yma yn Arthritis UK, ni fyddwn yn gorffwys nes bod gan bawb sydd ag arthritis fynediad at y triniaethau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fyw'r bywyd maen nhw'n ei ddewis, gyda gobaith gwirioneddol o iachâd yn y dyfodol.
Mae Arthritis UK wedi ymrwymo i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn ddiogel. Yn ystod y broses recriwtio, byddwn yn ymgymryd ag arferion recriwtio mwy diogel a gwiriadau perthnasol i sicrhau bod ymgeiswyr yn addas i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.
Darllenwch fwy am wirfoddoli i ni.