Information Hub Volunteer

Time commitment: 4-6 hours per month.  

Travel: Face-to-face session in community settings e.g. community halls, libraries, hospitals 

Are you passionate about supporting others and looking for a way to get involved in your local community?  Do you love working as part of a team, and would like to give something back while enjoying meeting people and making new friends? 

We are currently recruiting Information Hub Volunteers in the location(s) listed below. We would love you to volunteer with us!  

Scroll down for the Welsh version of this advert.

About the role  

At Arthritis UK, we believe everyone should have the support and information they need to live well. Our Information Hubs support people, including people with arthritis, chronic pain, and MSK conditions by providing them with practical resources on wellbeing and signposting to Arthritis UK services and other appropriate services. 

  • Talking to members of the public in a friendly and enthusiastic manner to raise awareness of arthritis and Arthritis UK services
  • Sharing appropriate publications and resources with people 
  • Answering general queries and signpost specific questions to the  appropriate member of staff, resources or Helpline
  • Ensuring safeguarding procedures are followed 

Download the role profile for Information Hub Volunteer

If you have any questions about this role before applying, please contact volunteering@arthritis-uk.org 

How to apply  

Please complete and submit the Volunteering Application Form online, please include the relevant code for the location of the role you are interested in:  

  • Information Hub Volunteer (115) Gwynedd, Anglesey, Conwy (Wales).
  • Information Hub Volunteer (146) North Powys, Wrexham & Denbighshire (Wales).
  • Information Hub Volunteer (149) Swansea & Neath Port Talbot (Southwest & Mid Wales).
  • Information Hub Volunteer (152) Lanarkshire, Glasgow (Central Scotland).
  • Information Hub Volunteer (155) Salford (Greater Manchester (England).
  • Information Hub Volunteer (159) Basingstoke Hampshire, Leatherhead East Molesey and Thames Ditton Surrey (England).
  • Information Hub Volunteer (172) Derry, Londonderry, Limavady, Strabane, Castlederg, Omagh (Northern Ireland).
  • Information Hub Volunteer (179) North Tyneside and Tyne & Wear (England).

When we have received your application, we will be in touch, our safer recruitment process will include: 

  • An informal chat to discuss the role, get to know you and understand your motivations for volunteering 
  • Two references
  • Photo identification.   

About us 

We are committed to increasing the diversity of our charity and we welcome candidates from a wide variety of backgrounds and experiences.  We want our employees, volunteers, trustees and involved people to represent the broad diversity of the communities of which we are a part.    

Over 10 million adults, young people and children in the UK live with arthritis. That’s one in six of us living with the pain, fatigue, disability, mental and financial strain it can cause. Many more live with arthritis but remain undiagnosed, untreated and unsupported. 

We know the impact of arthritis can be huge, affecting the ability to work, care for family, move free from pain and live independently.  Yet for a condition affecting so many, it’s poorly understood and far too little is done.  That’s why we invest in life-changing research into better treatments, support people through the daily challenges of life with arthritis, and campaign on the issues that matter most to people living with it. 

At Arthritis UK, we won’t rest until everyone with arthritis has access to the treatments and support they need to live the life they choose, with real hope of a cure in the future. 

Arthritis UK is committed to keeping children, young people and vulnerable adults safe from harm. During the recruitment process we will undertake safer recruitment practices and relevant checks to ensure applicants are suitable to work with children, young people and vulnerable adults.  

Read more about volunteering for us 

Gwirfoddolwr Hyb Gwybodaeth 

Ymrwymiad Amser: 4 i 6 awr y mis
Teithio: Sesiwn wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol e.e. neuaddau cymunedol, llyfrgelloedd, ysbytai

Ydych chi’n angerddol am gefnogi pobl eraill ac yn chwilio am ffordd o gymryd rhan yn eich cymuned leol? Ydych chi’n dwlu ar weithio fel rhan o dîm a hoffech chi roi rhywbeth yn ôl wrth fwynhau cwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd?

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio Gwirfoddolwyr Hyb Gwybodaeth yng ngogledd-orllewin Cymru. Byddem wrth ein boddau yn eich cael chi’n gwirfoddoli gyda ni! 

Gwybodaeth am y rôl

Yn Arthritis UK, credwn y dylai pawb gael y cymorth a’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt i fyw yn dda. Mae ein Hybiau Gwybodaeth yn cefnogi pobl, gan gynnwys pobl ag arthritis, poen cronig a chyflyrau cyhyrysgerbydol trwy roi adnoddau ymarferol ar les iddynt a’u cyfeirio i wasanaethau Versus Arthritis a gwasanaethau perthnasol eraill.

  • Siarad ag aelodau o’r cyhoedd mewn ffordd gyfeillgar a brwdfrydig i godi ymwybyddiaeth o arthritis a gwasanaethau Arthritis UK
  • Rhannu cyhoeddiadau ac adnoddau priodol gyda phobl
  • Ateb ymholiadau cyffredinol a chyfeirio cwestiynau penodol i’r aelod staff perthnasol, yr adnoddau perthnasol neu’r llinell gymorth
  • Sicrhau bod gweithdrefnau diogelu yn cael eu dilyn

Lawrlwythwch broffil y rôl ar gyfer Gwirfoddolwr Hyb Gwybodaeth (PDF 137KB).

Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y rôl hon cyn cyflwyno cais, e-bostiwch volunteering@arthritis-UK.org


Sut i gyflwyno

Llenwch a dychwelyd y Ffurflen Gais Gwirfoddoli ar-lein, gan gynnwys y cod perthnasol ar gyfer lleoliad y rôl sydd o ddiddordeb i chi: 

  • Gwirfoddolwr Hyb Gwybodaeth (115) - Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy
  • Gwirfoddolwr Hyb Gwybodaeth (146) - Gogledd Powys, Wrecsam a Sir Ddinbych

Pan fyddwn ni wedi derbyn eich cais, byddwn ni’n cysylltu â chi a bydd ein proses recriwtio fwy diogel yn cynnwys:

  • Sgwrs anffurfiol i drafod y rôl, dod i’ch adnabod chi a deall eich cymhelliant am wirfoddoli 
  • Dau eirda 
  • Ffotograff adnabod 

Amdanom ni

Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ein helusen ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiadau. Rydym am i'n gweithwyr, ein gwirfoddolwyr, ein hymddiriedolwyr ac unigolion sy'n cymryd rhan gynrychioli amrywiaeth eang y cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt.

Mae dros 10 miliwn o oedolion, pobl ifanc a phlant yn y DU yn byw gydag arthritis. Dyna un o bob chwech ohonom yn byw gyda'r poen, y blinder, yr anabledd, y straen meddyliol a’r straen ariannol y gall ei achosi. Mae llawer mwy yn byw gydag arthritis ond yn parhau i fod heb ddiagnosis, heb driniaeth a heb gefnogaeth.

Rydyn ni'n gwybod y gall effaith arthritis fod yn enfawr, gan effeithio ar y gallu i weithio, gofalu am deulu, symud heb boen a byw'n annibynnol. Ac eto i gyflwr sy'n effeithio ar gynifer, nid yw wedi'i ddeall yn dda ac mae cyn lleied yn cael ei wneud. Dyna pam ein bod ni'n buddsoddi mewn ymchwil sy'n newid bywydau i driniaethau gwell, yn cefnogi unigolion trwy heriau dyddiol bywyd gydag arthritis, ac yn ymgyrchu ar y materion sydd bwysicaf i unigolion sy'n byw gydag ef.

Yma yn Arthritis UK, ni fyddwn yn gorffwys nes bod gan bawb sydd ag arthritis fynediad at y triniaethau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fyw'r bywyd maen nhw'n ei ddewis, gyda gobaith gwirioneddol o iachâd yn y dyfodol.

Mae Arthritis UK wedi ymrwymo i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn ddiogel. Yn ystod y broses recriwtio, byddwn yn ymgymryd ag arferion recriwtio mwy diogel a gwiriadau perthnasol i sicrhau bod ymgeiswyr yn addas i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.

Darllenwch fwy am wirfoddoli i ni.