Ymgeiswyr Etholiad y Senedd
Sewch inni gefnogi pobl sydd ag arthritis
Mae bron i 1 miliwn o oedolion, pobl ifanc a phlant yng Nghymru’n byw gyda chyflwr Cyhyrysgerbydol fel arthritis. Felly, mae hynny’n bron i 1 miliwn o bobl yn byw gyda’r boen ddyddiol, y blinder a’r anableddau y gallan nhw eu hachosi.
Mae cynnydd wedi’i wneud. Ac rydym yn falch o fod yn rhan o hynny. Fodd bynnag, mae gormod o bobl yng Nghymru wedi gorfod gohirio’u gobeithion, breuddwydion ac uchelgeisiau oherwydd eu harthritis. Maen nhw’n aros mewn poen am driniaeth a chymorth – wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio, yn wynebu tlodi ac yn agos iawn at roi’r ffidil yn y to.
Gallwn newid hyn. Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru beidio â cholli momentwm a pharhau i wynebu’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn yn uniongyrchol.
Mae angen eich cymorth chi arnom i gyflawni hyn.
Ein maniffesto
Mae ein maniffesto yn gynllun ar gyfer newid. Rydym yn galw ar Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod arthritis yn flaenoriaeth genedlaethol er mwyn mynd i’r afael â’i effaith, penodi Gweinidog newydd dros Fynediad i Ofal Iechyd, mynd i’r afael ag ôl-groniad yr amseroedd aros am wasanaethau orthopedig a chefnogi plant a phobl ifanc sydd ag arthritis, a’u teuluoedd, er mwyn iddyn nhw allu ffynnu.
Maniffesto Arthritis UK Cymru: Galwad am weithredu yn y Senedd nesaf
991,000 rheswm i sicrhau bod arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) yn flaenoriaeth genedlaethol.
Mae cannoedd ar filoedd o bobl ledled Cymru yn deffro i boen arthritis pob diwrnod. Dywedai llawer un wrthym eu bod yn teimlo bod eu bywyd ar stop wrth iddyn nhw geisio goresgyn yr heriau sydd ynghlwm â byw gydag arthritis.
Gyda lwc mae modd lleihau effaith arthritis. Gallai atal, diagnosis cynnar, ymyriadau rhagweithiol cynnar, hunan-reoli gyda chymorth, a mynediad amserol tuag at gymorth, gwybodaeth a thriniaeth drawsnewid ansawdd bywyd.
Nod y maniffesto hwn ydy cyflwyno galwad am weithredu i sicrhau bod arthritis yn flaenoriaeth genedlaethol er mwyn mynd i’r afael â’i effaith – i drawsnewid sut caiff arthritis ei reoli yng Nghymru, gwella iechyd cyhyrysgerbydol y genedl a lleihau straen arthritis ar y GIG ac ein heconomi.
Addo eich cefnogaeth
Fel aelod o’r Senedd (AS) yn y dyfodol, ewch ati i leisio’ch barn dros bobl sydd ag arthritis.
Llofnodwch ein haddewid ac ymrwymwch i gefnogi pobl sydd ag arthritis, yn lleol, ac yn y Senedd.
Llofnodi ein haddewidRhannwch eich cefnogaeth ar X, a chofiwch ein crybwyll ni er mwyn i’ch dilynwyr allu dod o hyd inni am gymorth a chyngor.
“Mae bron i 1 miliwn o bobl yng Nghymru’n byw gyda chyflwr cyhyrysgerbydol fel arthritis. Os byddaf yn cael fy ethol, rwy’n addo lleisio fy marn dros bobl sydd ag arthritis yn y Senedd, a chydweithio gyda @ArthritisUK i sicrhau bod Cymru’n rhywle lle gallwn ni i gyd ffynnu.”
Cysylltu gyda ni
Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau nad oes unrhyw un yn wynebu oedi yng Nghymru.
E-bostio Hywel Evans, Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu, Arthritis UK Cymru: cymru@arthritis-uk.org
Cyfeirio atom ni
Ymhlith ein gwasanaethau mae adnoddau hunan-reoli, grwpiau cymorth lleol, cymuned ar-lein a Llinell Gymorth rhad ac am ddim: 0800 5200 520. Gofynnwn yn garedig ichi gyfeirio etholwyr atom ni ar arthritis-uk.org.