Etholiad y Senedd 2026
Neb i Wynebu Oedi
Mae bron i 1 miliwn o oedolion, pobl ifanc a phlant yng Nghymru’n byw gyda chyflwr cyhyrysgerbydol (MSK) fel arthritis. Felly, mae hynny’n bron i 1 miliwn o bobl yn byw gyda’r boen ddyddiol, y blinder a’r anableddau y gallan nhw eu hachosi.
Mae cynnydd wedi’i wneud. Ac rydym yn falch o fod yn rhan o hynny. Fodd bynnag, mae llawer gormod o bobl yn dal yn wynebu bywyd ar stop. Mae gormod o bobl yng Nghymru wedi gorfod gohirio’u gobeithion, breuddwydion ac uchelgeisiau oherwydd eu harthritis. Maen nhw’n aros mewn poen am driniaeth a chymorth – wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio, yn wynebu tlodi ac yn agos iawn at roi’r ffidil yn y to.
Gallwn newid hyn.
Stori Heather
"Dydy pobl ddim yn sylweddoli difrifoldeb arthritis. Rydw i wedi bod mewn poen bob diwrnod o fy mywyd ers imi fod yn 2 oed. Rydw i wedi teimlo fy esgyrn yn rhwbio yn erbyn ei gilydd, yn teimlo fel bod cerrig yn fy nghymalau. Rydw i’n teimlo wedi fy llethu yn ceisio dal ati i wneud pethau sylfaenol – y tasgau dydd i ddydd nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl amdanyn nhw, ond maen nhw’n ymddangos yn amhosibl pan mae gennych chi arthritis.
Yng Nghymru, mae’n teimlo fel ei bod hi o un eithaf i’r llall: weithiau mae cymorth a gwybodaeth yn dda iawn, ond y rhan fwyaf o’r amser nid yw ar gael o gwbl. Ni ddylwn orfod chwilio ar google ar ôl gweld fy meddyg! Byddai’n ddefnyddiol pe bai un lle penodol ichi fynd iddo ar gyfer popeth sy’n ymwneud â’ch iechyd, a byddai’n ddefnyddiol pe baen nhw’n rhoi gwybod ichi ba gymorth sydd ar gael.”
Ein maniffesto
Mae ein maniffesto yn gynllun ar gyfer newid, yn pennu’r camau gweithredu er mwyn i Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn yn uniongyrchol.
Rydym yn galw ar y Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod arthritis yn flaenoriaeth genedlaethol er mwyn mynd i’r afael â’i effaith, penodi Gweinidog newydd dros Fynediad i Ofal Iechyd, mynd i’r afael ag ôl-groniad yr amseroedd aros am wasanaethau orthopedig a chefnogi plant a phobl ifanc sydd ag arthritis, a’u teuluoedd, er mwyn iddyn nhw allu ffynnu.
Mae amseroedd a rhestrau aros gwasanaethau Orthopedig yng Nghymru ymhlith y rhai uchaf o bob gwasanaeth NHS
Maniffesto Arthritis UK Cymru: Galwad am weithredu yn y Senedd nesaf
991,000 rheswm i sicrhau bod arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) yn flaenoriaeth genedlaethol.
Mae cannoedd ar filoedd o bobl ledled Cymru yn deffro i boen arthritis pob diwrnod. Dywedai llawer un wrthym eu bod yn teimlo bod eu bywyd ar stop wrth iddyn nhw geisio goresgyn yr heriau sydd ynghlwm â byw gydag arthritis.
Gyda lwc mae modd lleihau effaith arthritis. Gallai atal, diagnosis cynnar, ymyriadau rhagweithiol cynnar, hunan-reoli gyda chymorth, a mynediad amserol tuag at gymorth, gwybodaeth a thriniaeth drawsnewid ansawdd bywyd.
Nod y maniffesto hwn ydy cyflwyno galwad am weithredu i sicrhau bod arthritis yn flaenoriaeth genedlaethol er mwyn mynd i’r afael â’i effaith – i drawsnewid sut caiff arthritis ei reoli yng Nghymru, gwella iechyd cyhyrysgerbydol y genedl a lleihau straen arthritis ar y GIG ac ein heconomi.
Mae modd i’n cymuned greu newid parhaol. Rydym yn gymuned rymus o bobl gydag arthritis, gofalwyr, ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, teuluoedd a ffrindiau ledled Cymru gyfan. Dro ar ôl tro rydym wedi dangos ein grym wrth inni ddod ynghyd a lleisio’n barn. Gyda’n gilydd, rydym yn mynnu dyfodol heb gyfyngiadau arthritis. Gyda’n gilydd gallwn roi dyfodol o’r fath ar waith.
Canfod mwy am ein hymgyrchoedd yng Nghymru.
Rydym yma i’ch cefnogi pryd bynnag y mae ein hangen arnoch:
Os hoffech chi siarad gyda rhywun, cofiwch gallwch:
- Ffonio ein llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0800 5200 520.
- Sgwrsio gydag ein Cynorthwyydd Rhithiol Arthritis (AVA).
- Ymuno gydag ein cymuned ar-lein.
- Gadw mewn cyswllt a dilyn ni ar X (Twitter), Facebook ac Instagram.